CLA440 - Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2014
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau o ganlyniad i Reoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/951) (Cy. 92).
Maent yn gwneud diwygiadau canlyniadol i dair Deddf Seneddol ac un offeryn statudol i ddarparu bod y Deddfau hynny a’r offeryn hwnnw yn cyfeirio at dystysgrifau cymhwysedd a thrwyddedau a ddyroddir o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014.
Gweithdrefn: Negyddol
1. Materion technegol: craffu
Ni nodwyd pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
2. Rhinweddau: craffu
Nodwyd y pwyntiau canlynol i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Nodir yn y Memorandwm Esboniadol fel a ganlyn –
“Gwneir y Rheoliadau diwygio hyn o dan weithdrefn penderfyniad negyddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan nad yw darpariaethau’r Rheoliadau diwygio hyn yn cael effaith sylweddol ar ddarpariaethau Deddfau Seneddol.”
Gan fod rheoliadau yn cael eu defnyddio i ddiwygio deddfwriaeth gynradd, byddai’r Pwyllgor yn disgwyl i’r weithdrefn gadarnhaol gael ei defnyddio, er mai diwygiadau canlyniadol sydd yma.
[Rheol Sefydlog 21.3 (ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad;]
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Awst 2014
Ymateb (drafft) Llywodraeth Cymru i’r Adroddiad ar sail Rhagoriaethau
Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014 a ddaeth i rym ar 20 Mai 2014 (Rheoliadau 2014) yn gwneud darpariaeth yng Nghymru ar gyfer gweinyddu a gorfodi Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1099/2009 a rheolau cenedlaethol penodol sy'n cael eu cynnal neu eu mabwysiadu o dan Erthygl 26(1) a (2) o'r Rheoliad hwnnw. Yn ogystal, dirymodd Rheoliadau 2014 Reoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 1995 (Rheoliadau 1995 fel yr oeddent yn gymwys o ran Cymru.
Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2014 (Rheoliadau Canlyniadol WATOK 2014) yn gwneud diwygiadau i dair Deddf Seneddol ac un Offeryn Statudol o ganlyniad i Reoliadau 2014.
Gan eu bod yn gymwys i’r tair Deddf, effaith Rheoliadau Canlyniadol WATOK 2014 yw diwygio'r tair Deddf hynny, fel y bo'n briodol, i gyfeirio at ofynion Rheoliadau 2014 yn ogystal â gofynion Rheoliadau 1995 neu i gyfeirio at dystysgrifau cymhwysedd a thrwyddedau a ddyroddwyd o dan Reoliadau 2014 yn ogystal â thrwyddedau a ddyroddwyd o dan Reoliadau 1995.
Effaith Rheoliadau Canlyniadol WATOK 2014, o ran yr Offeryn Statudol, yw cynnwys cyfeiriad at dystysgrifau cymhwysedd a thrwyddedau a ddyroddwyd o dan Reoliadau 2014. Felly bydd yr Offeryn Statudol yn cyfeirio at dystysgrifau cymhwysedd a thrwyddedau a ddyroddwyd o dan Reoliadau 2014 yn ogystal â thrwyddedau a ddyroddwyd o dan Reoliadau 1995 a thystysgrifau cymhwysedd i ladd anifeiliaid o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (yr Alban) 2012.
Gwnaed Rheoliadau Canlyniadol WATOK 2014 gan Weinidogion Cymru wrth arfer pwerau sydd yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi i arfer y pwerau hynny mewn perthynas â Pholisi Amaethyddol Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 nac Atodlen 2 iddi yn rhagnodi'r weithdrefn ddeddfwriaethol y mae'n rhaid ei dilyn wrth wneud rheoliadau fel Rheoliadau Canlyniadol WATOK 2014.
Gwnaed Rheoliadau Canlyniadol WATOK 2014 o dan weithdrefn penderfyniad negyddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan nad oedd darpariaethau'r Rheoliadau hyn fel y nodwyd uchod yn gwneud diwygiadau a oedd yn effeithio'n sylweddol ar ddarpariaethau perthnasol y Deddfau Seneddol oedd yn cael eu diwygio.